Return to flip book view

Rhaglen Wythnos Busnes Cyngor Gwynedd

Page 1

14 - 18 Hydref 2024

Page 2

Mae Busnes@Gwynedd, Tîm Cymorth Busnes CyngorGwynedd, yn ymroddedig i gefnogi busnesau yngNgwynedd, gan gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorthymarferol i helpu mentrau lleol i dyfu a ffynnu. Mae ein tîmyma i helpu - o gymorth dechrau neu ehangu busnes, i ddeallgrantiau a chymorth ariannol. Rydym hefyd yn rheoli nifer ounedau gwaith ar draws y sir, sydd wedi'u cynllunio i feithrinamgylchedd cystadleuol i fusnesau. Mae Bwletin Busnes@ yn rhannu’r newyddion diweddaraf –mae’n cael ei anfon ddwywaith yr wythnos ac mae wedi'ideilwra ar gyfer busnesau yng Ngwynedd. Mae’n fforddgyflym a hawdd o dderbyn y newyddion, yr adnoddau, a’r cyfleoedd diweddaraf (a mwy)yn syth i’ch blwch e-bost.Croeso i Wythnos Busnes Cyngor Gwynedd 2024!Mae'r digwyddiad hir-ddisgwyliedig hwn, a gynhelir rhwng 14a 18 Hydref, yn cynnig llwyfan unigryw i fusnesau asefydliadau lleol gysylltu, rhannu gwybodaeth, a pharatoi argyfer y dyfodol. Drwy gydol yr wythnos, bydd CyngorGwynedd, mewn partneriaeth â sefydliadau cymorth busnes,yn cynnal amrywiaeth o sesiynau gyda'r nod o ddarparugolwg a syniadau gwerthfawr a chyngor ymarferol i fusnesauledled y sir. Estynnwn ein diolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio isicrhau bod modd cynnal y digwyddiadau eleni, o'r trefnwyr i'rlleoliadau a'r holl gyfranwyr.“Rwyf wedi cael y fraint o ymweld â sawl busnes ar draws ysir a gweld ymroddiad anhygoel a gwaith caled perchnogiona'u timau yn uniongyrchol. Bydd Wythnos Busnes Gwynedd 2024 yn darparu llwyfangwerthfawr i fusnesau lleol ddod at ei gilydd, rhannu euprofiadau, cysylltu â chyfoedion, ac edrych ar ffyrdd o feithringwytnwch mewn tirwedd sy'n newid yn barhaus.”Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd CyngorGwynedd a’r Aelod Cabinet dros yr Economi.Ynglŷn â Busnes@GwyneddSganiwchyma igofrestru *Gall manylion y digwyddiad newid oherwydd amgylchiadau annisgwyl*

Page 3

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 6:30pm gyda gair o groeso gan Dyfrig Siencyn,Arweinydd Cyngor Gwynedd a Chynghorydd Ward (Gogledd) Dolgellau. 6:40yh - 8yh - Cyfle i glywed gan ein siaradwyr gwadd, a chyfle i ofyn cwestiynauyn ystod trafodaeth banel. 8yh - 8:30yh - Cysylltu â chyd-fynychwyr mewn sesiwn rwydweithio.Cofrestrwchyma:Ymunwch â ni am ddigwyddiad cyffrous i lansio’r Wythnos Busnes, sy'n canolbwyntioar helpu busnesau lleol i adeiladu gwytnwch a ffynnu mewn byd sy'n newid yngyflym. Bydd mynychwyr yn clywed straeon ysbrydoledig gan fusnesau lleol am eutaith i ddiogelu eu busnesau at y dyfodol, gan dynnu sylw at y strategaethau a'rdatblygiadau arloesol sydd wedi eu helpu i addasu i heriau newydd.LANSIAD WYTHNOS BUSNESDydd Llun 14 Hydref | 6:30yh - 8:30yhY Fforc, Corcyn a’r PluLion St, Dolgellau. LL40 1DGAgendaByddwch hefyd yn cael cyfle i gysylltu â chynrychiolwyr o:Dyma’r siaradwyr gwadd...Andrew Peirson The Fork, Cork & FeathersHuw ThomasArloesi DolgellauTes James Tom James ConstructionMenter Iaith GwyneddGreener Edge Sustainability

Page 4

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 9am gyda gair o groeso gan Nia Jeffreys,Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet dros yr Economi.9:15yb - 10:30yb - Cyfle i glywed gan ein siaradwyr gwadd, a chyfle i ofyncwestiynau yn ystod trafodaeth banel. 10:30yb - 11yb - Cysylltu â chyd-fynychwyr mewn sesiwn rwydweithio.Ymunwch â ni am ddigwyddiad frecwast ym Mangor gyda'r nod o rymuso busnesau lleol i ffynnu.Mwynhewch straeon ysbrydoledig gan entrepreneuriaid lleol wrth iddynt rannu sut maen nhwwedi gweithio i ddiogelu eu busnesau at y dyfodol trwy strategaethau arloesol. Mae'r digwyddiadhwn hefyd yn cynnig cyfle gwerthfawr i rwydweithio â chyd-berchnogion busnes a gweithwyrproffesiynol, cyfnewid syniadau, a chreu cysylltiadau i gefnogi llwyddiant yn y dyfodol.BRECWAST BUSNES BANGORDydd Mawrth 15 Hydref | 9yb - 11ybMixopolyClwb Criced Bangor, Ffordd Llandegai, Bangor. LL57 4HRAgendaByddwch hefyd yn cael cyfle i gysylltu â chynrychiolwyr o:Dyma’r siaradwyr gwadd...Caryl LewisMenter Ty’n LlanSteffan HuwsPoblado CoffiTim LloydAlways Aim High EventsCofrestrwchyma:Menter Iaith GwyneddGreener Edge Sustainability

Page 5

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 9am gyda gair o groeso gan Nia Jeffreys,Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet dros yr Economi. 9:15yb - 10:30yb - Cyfle i glywed gan ein siaradwyr gwadd, a chyfle i ofyncwestiynau yn ystod trafodaeth banel. 10:30yb - 11yb - Cysylltu â chyd-fynychwyr mewn sesiwn rwydweithio.Heddiw, rydym yn dod i Bwllheli ar gyfer digwyddiad sy'n canolbwyntio ar helpu busnesaulleol i adeiladu gwytnwch a ffynnu. Byddwch yn clywed straeon ysbrydoledig gan fusnesaulleol am eu taith i ddiogelu eu busnesau at y dyfodol. Mae'r digwyddiad hwn hefyd yn cynnigcyfle gwych i rwydweithio â chyd-berchnogion busnes a gweithwyr proffesiynol, cyfnewidsyniadau, a chreu cysylltiadau a all sbarduno llwyddiant yn y dyfodol.BRECWAST BUSNES PWLLHELIDydd Mercher 16 Hydref | 9yb - 11ybCaffi LargoEmbankment Rd, Pwllheli. LL53 5ABAgendaByddwch hefyd yn cael cyfle i gysylltu â chynrychiolwyr o:Dyma’r siaradwyr gwadd...Tudur WilliamsCaffi LargoArwel CullenChilli Penguin StovesLloyd EdwardsY Maes, CricciethCofrestrwchyma:Menter Iaith GwyneddGreener Edge Sustainability

Page 6

Ymunwch â Merched Mentrus Môn a Gwynedd am gyfarfodanffurfiol a gynlluniwyd i gynnig cyfle i ferched mewn busnes,neu'r rhai sy'n ystyried dechrau busnes, gysylltu, rhannuprofiadau, ac adeiladu sgiliau newydd. Mae croeso i aelodaunewydd a rhai sy'n dychwelyd. Bydd y sesiwn yn gyfle i ffurfiorhwydweithiau cefnogol o fewn y gymuned fusnes mewnawyrgylch hamddenol, cyfeillgar a deniadol. Os ydych chi'n chwilio am gyngor neu'n dymuno cwrdd agunigolion o'r un anian, mae hwn yn gyfle gwych i ddod ynghyd athyfu mewn lleoliad cymdeithasol.MERCHED MENTRUSDydd Mercher 16 Hydref | 6yh - 8:30yhHwb Arloesi146 Stryd Fawr, Porthmadog. LL49 9NUDalier sylw: cynhelir y sesiwn hon yn y Gymraeg gan fodMerched Mentrus Môn a Gwynedd yn grŵp rhwydweithio busnesCymraeg, i ferched. Ni fydd cyfieithydd.Cofrestrwchyma:

Page 7

Dydd Iau 17 Hydref | 8:45yb - 10:30ybHwb ArloesiSESIYNAU 1-i-1AR GAELCofrestrwchyma:SESIWN RHWYDWEITHIO MORLAIS 146 Stryd Fawr, Porthmadog. LL49 9NUBeth i’w ddisgwylCyfleoedd rhwydweithio gyda thîm cadwyn gyflenwi MorlaisCipolwg ar gadwyn gyflenwi'r llif llanw a'i gofynionTrafodaethau ar uwchsgilio'ch gweithlu a chreu cyfleoeddgwaith newyddStrategaethau ar gyfer ehangu'r defnydd o'r Gymraeg o fewneich busnesOs oes gennych ddiddordeb mewn sesiwn un i un gyda thîmcadwyn gyflenwi Morlais yn ystod y bore, nodwch hyn ar eichffurflen archebu, a byddant yn trefnu amser.Morlais yw prosiect ynni llif llanw Menter Môn. Mae'r prosiect ynrheoli ardal o 35km2 o wely'r môr ger Ynys Cybi, Ynys Môn ac maeganddo'r potensial i gynhyrchu hyd at 240 MW o drydan glâncarbon isel. Nod y prosiect yw i weld busnesau rhanbarthol ynffynnu o'r cyfleoedd caffael sy'n gysylltiedig â'r prosiectBydd y digwyddiad hwn yn yn caniatáu rhwydweithio ymhlith ygymuned fusnes ac yn trafod sut y bydd y prosiect yn meithrinperthynas strategol â busnesau rhanbarthol.Cwmnïau sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru sydd am ehangueu cyfleoedd o fewn y sector ynni adnewyddadwy.Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad?

Page 8

Dydd Gwener 18 Hydref | 9yb - 12:30ypTy GwyrddfaiSESIYNAU 1-i-1AR GAELCefnogaeth, hyfforddiant a therapïau personol ihelpu pobl a busnesau ledled Cymru.RCS CymruAdnoddau hyfforddi a datblygu wedi'u teilwraar gyfer anghenion busnesau lleol.Gwaith Gwynedd Gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth argyfer dechrau, rhedeg a thyfu busnes.Bunses CymruYsgogi twf economaidd trwy atebion arloesolac arloesedd. M-SParcYmgynghoriaeth busnes wedi’i deilwra ianghenion lleol. Ymgynghorwyr Busnes LafanCefnogi'r diwydiant twristiaeth i ddenuymwelwyr a rhoi hwb i'r economi leol.Tîm Twristiaeth Cyngor GwyneddCymdeithas Tai fwyaf Gogledd Cymru.ADRAHyfforddiant, uwch-sgilio, a chefnogaeth wedi'itheilwra ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru.Sgiliau Bwyd a Diod CymruCefnogi twf proffesiynol a gwellasgiliau'r gweithlu.Busnes@ Llandrillo Menai: Helpu busnesau SME i gael gafael ar gyllid aall hwyluso twf ac arloesedd.Banc Datbylygu CymruLlais blaenllaw 5.5 miliwn o fusnesau bach a'rhunangyflogedig yn y DU.FSB (Ffederasiwn y Busnesau Bach)Cynorthwyo busnesau sy'n ceisio ehangu eugweithrediadau yn rhyngwladol.Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a MasnachHyfforddiant blaengar mewn datgarboneiddio,ynni adnewyddadwy, a sgiliau ôl-osod.Hyfforddiant Sero Net GwyneddCefnogi entrepreneuriaid ifanc i helpu i droisyniadau arloesol yn fusnesau llwyddiannus. Syniadau Mawr Cymru Cymorth, gofod gweithio, ac arweiniad ihelpu i ddechrau a thyfu busnesau.Hwb MenterHelpu cynhyrchwyr bwyd a diod i arloesi athyfu eu busnes.CywainYmunwch â ni am fore sy'n canolbwyntio ar helpu'ch busnes i ffynnu! Osydych chi yn chwilio am arweiniad, neu os oes gennych chi strategaethbenodol mewn golwg ar gyfer eich busnes eisoes, mae'r digwyddiad hwn yncynnig cyfle i gwrdd ag ystod eang o sefydliadau cymorth busnes mewn un lle.CWRDD A’R DARPARWYRPenygroes Industrial Estate, Penygroes, Caernarfon. LL54 6DBCysylltwch â'r sefydliadau hyn:Cofrestrwchyma:

Page 9

Clywed gan siaradwyr gwadd a fydd yn cynnig mewnwelediadaugwerthfawr.Trafodaeth panelCyfleoedd i rwydweithio.Cofrestwchyma:Ymunwch â ni ym Mlaenau Ffestiniog i wrando ar brofiadau rhai o'rbusnesau, mentrau a sefydliadau sy'n cael eu cefnogi gan y Rhaglen ARFORyng Ngwynedd. Byddem gyda phanel trafodaeth a fydd yn mynd i'r afael aphynciau pwysig fel yr economi, y Gymraeg a mudo pobl ifanc, a bydd cyflei'r gynulleidfa holi ein panel.ARFOR YNG NGWYNEDDDydd Gwener 18 Hydref | 6yh - 8yhQueens Hotel1 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ESBeth i'w ddisgwyl:Ariennir y digwyddiad hwn gan Rhaglen ARFORMae Rhaglen ARFOR yn cefnogi twf economaidd ac entrepreneuriaethmewn cymunedau Cymraeg ar draws Gwynedd, Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin,a Cheredigion. Mae'n annog busnesau sy'n defnyddio'r Gymraeg i dyfu,ffynnu a chreu swyddi, gyda'r nod o gadw pobl ifanc yn yr ardaloedd hyn ahelpu cymunedau Cymraeg i ffynnu.Ynglŷn â Rhaglen ARFOR“Tanio Twf, Dathlu Diwylliant”

Page 10

Menter Iaith GwyneddHyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau, a chefnogiunigolion, busnesau a sefydliadau i integreiddio’r iaith i fywyd a gwaithbeunyddiol. Mae'r fenter yn canolbwyntio ar gynyddu cyfleoedd i boblsiarad Cymraeg mewn gwahanol leoliadau. Trwy ddatblygu cynlluniaumewn partneriaeth â sefydliadau lleol, mae Menter Iaith yn helpusiaradwyr newydd a phetrusgar i fagu hyder wrth gynnig cefnogaeth igrwpiau gwirfoddol. Mae eu gwaith hefyd yn codi ymwybyddiaeth o suty gall pawb gyfrannu at dwf y Gymraeg fel rhan fyw, fywiog o fywydcymunedol.Darganfyddwch fwy am bwy y byddwch yn clywed ganddyntSIARADWYR GWADDYn arwain y trafodaethau ar gyfer ein digwyddiadau bydd Daloni Metcalfe,cyflwynydd adnabyddus sydd â gyrfa hirsefydlog ar deledu Cymraeg, sy'nfwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda BBC Cymru ac S4C. Y tu hwnt i'w rôlyn y cyfryngau, mae'n rhedeg Cwt Tatws, siop boblogaidd yn Nhudweiliogsy’n arddangos ei hangerdd am gynnyrch Cymreig.CYFLWYNYDDSEFYDLIADAU SY'N BRESENNOL YM MHOB DIGWYDDIADGreener Edge SutainabilityWedi'i sefydlu gan Ymgynghorydd Ynni a Chynaliadwyedd Stu Meadesi ddarparu atebion ynni a chynaliadwyedd o fewn y sector cyhoeddusa'r amgylchedd corfforaethol. Mae Greener Edge yn canolbwyntio arhelpu sefydliadau i leihau eu hôl troed carbon a gweithredu arferioncynaliadwy. Gydag arbenigedd mewn effeithlonrwydd ynni,technolegau adnewyddadwy, ac ymgynghori cynaliadwyedd, mae'rcwmni'n gweithio'n agos gyda chleientiaid i deilwra atebion sy'n cwrddâ'u hanghenion penodol, gan anelu at ysgogi newid amgylcheddolcadarnhaol a hyrwyddo dyfodol mwy cynaliadwy.Daloni MetcalfeRydym yn falch o gael y sefydliadau canlynol yn bresennol ym mhob digwyddiad:

Page 11

Andrew PeirsonGyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant bwyd, cydsefydloddAndrew a'i bartner Y Fforc, Corcyn a’r Plu yn Nolgellau gyda'r nod o greugofod sy'n dathlu cynnyrch, diwylliant a’r iaith Gymraeg.Y Fforc, Corcyn a’r Plu SIARADWYR YN Y DIGWYDDIAD LANSIOTes JamesGyda chefndir mewn Gwaith Cymdeithasol, daeth Tes yn gyd-gyfarwyddwr Tom James Construction Services Ltd yn 2021. Mae Tesyn angerddol am weithredu'r safonau uchaf i sicrhau lles eu gweithwyra llwyddiant y cwmni.Tom James ConstructionHuw ThomasYn wreiddiol o Lanelwy, bu Huw yn gweithio am 30 mlynedd yn Foster +Partners, practis pensaernïaeth fyd-eang. Eleni, cydsefydlodd ArloesiDolgellau, canolfan arloesi sy'n hyrwyddo sgiliau ac entrepreneuriaeth.Arloesi DolgellauCaryl LewisGyda 15 mlynedd o brofiad ym maes rheoli a datblygu cymunedol, maeCaryl yn un o sylfaenwyr Menter Ty'n Llan ac mae'n mwynhau rhoirhywbeth yn ôl a gwneud gwahaniaeth i'r gymuned ac i fywydau pobl.Menter Ty’n LlanSIARADWYR YM MRECWAST BUSNES BANGORTim LloydYn gyn-rasiwr sgïo rhyngwladol a hyfforddwr Olympaidd, treuliodd Tim30 mlynedd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru cynsefydlu Always Aim High Events yn 2010, sy'n dod â chwaraeon o safonfyd-eang i Ogledd Cymru.Always Aim High EventsSteffan HuwsAr ôl treulio amser yn gweithio dramor a chyda'r awydd i ddechrau busnesei hun, sefydlodd Steffan Coffi Poblado yn 2013; y busnes rhostio coffiArtisan cyntaf yng Nghymru, gyda ffocws ar greu cynhyrchion moesegol oansawdd uchel.Coffi Poblado

Page 12

Tudur WilliamsAr ôl gweithio ar lawer o brosiectau ymchwil busnes a gyda chefndir yn ybyd academaidd, yn 2021 aeth Tudur a'i deulu ati i adnewyddu'n llwyradeilad eiconig Traeth De Pwllheli a'i ailagor fel Caffi Largo.Caffi LargoSIARADWYR YM MRECWAST BUSNES PWLLHELILloyd EdwardsGyda chefndir mewn rheolaeth adeiladu ac ynni adnewyddadwy,dychwelodd Lloyd i'w dref enedigol, Cricieth, i gyfuno angerdd acarbenigedd i adeiladu busnes lleol sydd wedi'i wreiddio mewn cymuned.Y Maes, CricciethArwel CullenGyda gradd mewn peirianneg chwaraeon moduro, mae gyrfa Arwel yncynnwys gweithio i Ford ac amser yn addysgu Peirianneg yng NgholegMeirion Dwyfor. Yn Beiriannydd Cynhyrchu profiadol, mae Arwel ynarwain ar welliannau dylunio a phrosesau cynhyrchu.Chilli Penguin StovesDiolch yn fawr i’n holl siaradwyr am eu cyfraniadau gwerthfawri Wythnos Busnes Cyngor Gwynedd 2024.

Page 13

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal arolwg i ddeall anghenion busnesau lleol ynwell. Rydym eisiau clywed am yr heriau yr ydych chi'n eu hwynebu, y gefnogaethyr ydych chi ei hangen a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd eich adborth yncael ei ddefnyddio i'n helpu i deilwra ein gwasanaethau i gefnogi'r gymunedfusnes yn well. Mae'r arolwg ar agor tan hanner nos ar 25 Tachwedd. I gymrydrhan, sganiwch y cod QR. Fel arall, mae copïau papur ar gael yn llyfrgelloeddCyngor Gwynedd a lleoliadau Siop Gwynedd, neu gallwch ofyn am gopi drwy'rpost drwy ffonio 01286 679505.Helpwch i lunio dyfodol cymorth busnes lleol trwygymryd rhan yn ein Harolwg Busnes!Rydym yn gwerthfawrogi ymroddiad busnesau ar draws Gwynedd, ac wedi gweithio'n galed i wneudy digwyddiad hwn yn un diddorol a defnyddiol. Gobeithiwn ei fod wedi cynnig mewnwelediadaugwerthfawr, wedi ysbrydoli syniadau newydd, ac wedi eich helpu i greu cysylltiadau ystyrlon.Nodiadau a SyniadauDIOLCH AM YMUNO Â NI!..............................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................................Dweud eichdwued yma

Page 14